Events Supporting the National Eisteddfod 2027

Cymraeg

Yn 2027, bydd Hafan Yr Afon yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu cerddoriaeth a dawns Cymru ac i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027. Bydd y rhaglen yn cynnwys cyngherddau gan Hen Fegin a Gwilym Bowen Rhys, a thwmpath arbennig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Ffonic a Monty Folk.

Gyda chefnogaeth Cymdeithas Efeillio’r Drenewydd a Menter Maldwyn.


English

In 2027, Hafan Yr Afon will host a series of events celebrating Welsh music and dance and raising funds for the Maldwyn Meirionnydd National Eisteddfod 2027. The programme includes concerts by Hen Fegin and Gwilym Bowen Rhys, plus a special St David’s celebration with a twmpath led by Ffonic and Monty Folk.

Supported by Newtown Twinning Association and Menter Maldwyn.


Hen Fegin:  Dydd Sadwrn 6 Chwefror 2027

Ymunwch â Hen Fegin yn Hafan Yr Afon am noson o ganeuon ac alawon gwerin Cymraeg traddodiadol a chyfoes, i gyfeiliant acordion, gitâr, mandolin a ffidil.

Mae’r grŵp o Sir Drefaldwyn yn cynnwys Bryn Davies, Roy Griffiths, Jac Gittins a Rhys Jones. Mae Roy a Jac yn adnabyddus fel aelodau o Plethyn; mae Bryn yn aelod o Pentennyn ac yn gyn-aelod o Ci Du; ac mae Rhys wedi perfformio gyda sawl band, gan gynnwys Ffonic o’r Drenewydd. Daeth y pedwar at ei gilydd yn 2015 i ffurfio Hen Fegin.

Digwyddiad i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027, gyda chefnogaeth Cymdeithas Efeillio’r Drenewydd a Menter Maldwyn.

Hen Fegin:  Saturday 6 February 2027 •

Join Hen Fegin at Hafan Yr Afon for an evening of traditional and contemporary Welsh folk songs and tunes, accompanied by accordion, guitar, mandolin and fiddle.

The Montgomeryshire group brings together Bryn Davies, Roy Griffiths, Jac Gittins and Rhys Jones. Roy and Jac are known for their work with Plethyn; Bryn is a member of Pentennyn and formerly Ci Du; and Rhys has performed with several bands, including Newtown’s Ffonic. The four formed Hen Fegin in 2015.

A fundraising event for the Maldwyn Meirionnydd National Eisteddfod 2027, supported by Newtown Twinning Association and Menter Maldwyn.


Twmpath Gŵyl Dewi gyda Ffonic a Monty Folk Dydd Sadwrn 6 Mawrth 2027

Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Hafan Yr Afon gyda thwmpath bywiog gan Ffonic a Monty Folk, a Claire Weston yn galw’r dawnsfeydd.

Mae Ffonic o’r Drenewydd a Monty Folk o Drefaldwyn yn ddau fand gwerin cymunedol lleol sy’n rhannu aelodau ac yn mwynhau perfformio gyda’i gilydd. Yn 2024, buont yn chwarae yn Les Herbiers yn Ffrainc fel rhan o ymweliad Cymdeithas Efeillio’r Drenewydd.

Byddant yn chwarae cerddoriaeth ddawns a chaneuon o draddodiadau Cymru, Lloegr a’r gwledydd Celtaidd, gan gynnwys Llydaw. Gyda’i dull cyfeillgar a di-lol, bydd yr alwr dawns profiadol Claire Weston yn arwain y dawnsfeydd ac yn helpu pawb i ymuno yn yr hwyl.

Digwyddiad i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027, gyda chefnogaeth Cymdeithas Efeillio’r Drenewydd a Menter Maldwyn.

St David’s Twmpath with Ffonic and Monty Folk:  Saturday 6 March 2027

Celebrate St David’s Day at Hafan Yr Afon with a lively twmpath from Ffonic and Monty Folk, with dances called by Claire Weston.

Ffonic from Newtown and Monty Folk from Montgomery are two local community folk bands who share members and enjoy performing together. In 2024, they played in Les Herbiers, France, as part of Newtown Twinning Association’s visit.

Expect dance music and songs from Welsh, English and Celtic traditions, including Brittany. Experienced caller Claire Weston will guide the dances with a friendly, down-to-earth approach and help everyone join in the fun.

A fundraising event for the Maldwyn Meirionnydd National Eisteddfod 2027, supported by Newtown Twinning Association and Menter Maldwyn.


Gwilym Bowen Rhys:  Dydd Gwener 19 Mawrth 2027

Ymunwch â Gwilym Bowen Rhys yn Hafan Yr Afon am noson o ganu gwerin Cymraeg sy’n dod â’r hen a’r newydd ynghyd.

Yn hanu o Arfon ac wedi’i fagu yn y traddodiad Eisteddfodol, mae Gwilym wedi sefydlu ei hun fel un o berfformwyr acwstig amlycaf Cymru. Mae ei gerddoriaeth yn cyfuno hen alawon a geiriau â threfniannau gitâr cywrain a llais grymus sy’n symud o dynerwch melfedaidd i nerth gwyllt ac amrwd.

Yn 2019, enillodd wobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru a chyrhaeddodd restr fer gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2.

Digwyddiad i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027, gyda chefnogaeth Cymdeithas Efeillio’r Drenewydd a Menter Maldwyn.

Gwilym Bowen Rhys:  Dydd Gwener 19 Mawrth 2027

Join Gwilym Bowen Rhys at Hafan Yr Afon for an evening of Welsh language folk music that brings old songs into vivid new life.

Hailing from Arfon in north-west Wales, Gwilym combines traditional melodies and lyrics with intricate guitar arrangements and a powerful voice that moves from velvety sweetness to earthy grit. Raised in the Eisteddfod tradition, he has become a leading ambassador for Welsh language song at home and internationally.

In 2019, he won Best Solo Artist at the Welsh Folk Awards and was nominated for Folk Singer of the Year at the BBC Radio 2 Folk Awards.

A fundraising event for the Maldwyn Meirionnydd National Eisteddfod 2027, supported by Newtown Twinning Association and Menter Maldwyn.